MENU

Cwmni Bwyd Pigo cyntaf a gorau Sir Gaerfyrddin

Wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin, Lime Grove Grazing yw arlwywr Bwyd Pigo a Digwyddiadau gorau’r sir. Gan ganolbwyntio ar fwyd cymdeithasol ac anffurfiol, rydym am ffarwelio â lluniaeth di-liw a’ch cyfareddu wrth y bwrdd bwyd.

Bocsys

Plateidiau

Byrddau

Sut mae’n gweithio

Ymholiadau

Anfonwch eich archeb neu ymholiad ar e-bost neu drwy’n tudalen gyswllt, a byddwn yn cysylltu â chi i drafod ymhellach.

Talu am eich archeb

Bydd angen taliad llawn wrth archebu Bocsys Pigo. Bydd angen blaendal o 50% i sicrhau Byrddau Pigo. Byddwn yn anfon manylion talu atoch wrth ymateb i’ch ymholiad. Ni fyddwn yn ad-dalu taliadau a blaendaliadau.

Casglu / Danfon

Rydym yn cynnig gwasanaeth danfon i rannau helaeth o Sir Gaerfyrddin. Gallwch hefyd gasglu eich archeb. Am wybodaeth bellach ynglŷn ân gwasanaeth danfon ewch draw i’r adran Cwestiynau Cyffredin.

Pwy ydym ni?

Cwmni wedi’i sefydlu gan Sian sydd, ar ei chyffes ei hun, yn fwydgarwr. Wedi’i hysbrydoli gan bartïon teuluol yn Ffrainc, roedd Sian wrth ei bodd â pha mor anffurfiol oedd y profiad bwyta, ond heb fyth amharu ar y blas a’r lliw. Roedd y Teulu yn pori ar gawsiau a chigoedd wedi’u halltu am oriau, a gyda gwin o ansawdd a chynnyrch ffres, roeddent yn bartïon heb eu tebyg.  Wrth gynllunio eu priodas yn 2018, roedd Sian yn gwybod yn union sut roedd hi am fwydo ei gwesteion, ond nid oedd unrhyw beth o’r fath i’w gael yng ngorllewin Cymru. Ar ôl miliwn o amheuon ac un risg enfawr ganwyd Lime Grove Grazing yn ystod haf 2019.

Beth ydym yn ei wneud?

Ein nod yw creu profiadau bwyta cymdeithasol trawiadol dros ben i chi eu mwynhau ym mha bynnag ffordd a fynnoch.  Gallai fod yn fwrdd o fwydydd pigo yn byrlymu o flasau a lliwiau neu’n focs pigo wedi’i anfon yn syth i’ch drws, mae pob dim ar gael! 

Mae Lime Grove Grazing yn ymfalchïo mewn cefnogi busnesau lleol, a cheisiwn gefnogi cyd-fusnesau bach Cymru bob amser pan fo hynny’n bosibl.